P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Natasha Hamilton-Ash, ar ôl casglu cyfanswm o 11,392 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
Bydd y cynllun presennol yn gwneud yn siŵr bod Canolfan Ganser Felindre yn parhau i ddarparu gwasanaethau canser arbenigol mewn lleoliad sy'n fwy hygyrch i gleifion, gyda gwell mynediad o Gyffordd 32 yr M4. Caiff ei dderbyn yn gyffredinol bod ysbytai mewn lleoliad naturiol yn cynorthwyo adferiad cleifion ac yn gostwng lefelau straen teuluoedd a staff mewn ysbytai.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid oes digon o le i barcio yn y lleoliad presennol ac yn aml bydd oedi cyn cael mynediad, gan achosi straen a phryder ychwanegol i gleifion. Nid oes gan Ganolfan Ganser Felindre – sy’n 60 mlwydd oed – yr adnoddau na’r lle i fodloni’r her hon ar gyfer y dyfodol.
Rydym ni eisiau lle sy’n plethu gofal meddygol â byd natur.
Yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, bu cryn ddatblygiad ym maes effaith dyluniad pensaernïol ar lwyddiant amgylcheddau gofal iechyd. Un enghraifft yw 'pensaernïaeth sy’n iachau’. Bathwyd y term 'pensaernïaeth sy’n iacháu' gyntaf yn ystod y 1980au. Mae'n ddisgyblaeth benodol o'r 'amgylchedd iacháu', sy'n ymchwilio i ddylanwad yr amgylchedd ar broses iacháu ac adfer cleifion. Yn ôl ymchwil, gallai cleifion adael yr ysbyty’n gynt, ac efallai y byddai angen llai o gyffuriau i ladd poen arnyn nhw, petaen nhw mewn ystafelloedd gyda golygfa o barc â choed. Dangosodd astudiaethau diweddarach fod ffactorau o'r fath yn bwysig nid yn unig ar gyfer llesiant cleifion a thrigolion, ond ar gyfer gweithwyr hefyd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru